Tyrd i mewn, mae yma groeso,
aelwyd gynnes dan un to,
yma mae pob un yn cyfrif,
a phawb yn arwr yn ei dro…
fel y rhai a fu o’th flaen di
yn codi llais yn erbyn trefn,
gelli dithau ddangos ochr,
weithiau rhaid cael asgwrn cefn…
cofia daith yr afon Ddyrfdwy,
tarddu’n fychan rhwng y brwyn,
weithiau’n droellog, weithiau’n
union
ond yn ei dafnau, dawns a swyn,
a’r Tryweryn - yn ei halaw,
y llon a’r lleddf ynghlwm i gyd,
ond ynddi nid oes nodyn chwerw,
dy annog mae i herio’r byd.
a phan fyddi’n cael dy amau
yn gorfod sefyll dros y gwir,
cei o’th gylch gadernid Berwyn,
a doethineb hen ei thir…
A phan ddaw dy dro i adael,
cwyd dy ben, rho wên i’r byd,
a chofia fod yng Ngodre’r Berwyn,
ddrws ar agor i bawb o hyd.
Haf Llewelyn
“Pan fo brwydrau yn y byd,
Godre’r Berwyn gwyn eu byd”
HWB
SCHOOL GATEWAY
SHAREPOINT
WELCOME
CALENDAR
SCHOOL UNIFORM
Welcome to
Ysgol Godre’r
Berwyn
Ysgol Godre’r Berwyn © 2025
Website designed and maintained by H G Web Designs