Ein nod yw creu ysgol sy’n rhoi plant yn gyntaf, yn
parchu ac ymestyn pob unigolyn i’w lawn botensial.
Bydd hyn yn ei dro yn helpu i ddatblygu pobl ifanc
egwyddorol, mentrus ac uchelgeisiol sydd yn rhoi
o’u gorau pob amser.
Amcanwn i roi’r addysg orau bosib i bob disgybl a chreu
ysgol hapus ble mae bawb, yn blant ac oedolion, yn
gwneud eu gorau bob amser, yn frwdfrydig, yn gofalu
am ei gilydd ac yn awyddus i fanteisio ar bob cyfle a
phrofiad i ddysgu ac i gyfoethogi eu bywyd. Mae plant
sy’n hapus yn gweithio’n well gan eu bod yn teimlo’n
ddiogel. Os cânt barch gan eu rhieni a’u hathrawon,
maent yn dangos parch yn ôl ac maent yn fwy awyddus
i blesio. Ceisiwn sicrhau ein bod bob amser yn barod i
wrando ar blant – nid eu clywed yn unig, a byddwn pob
amser yn dêg. Nid yw hyn yn syml yn golygu trin pob
plentyn yn union yr un fath bob amser. Rhaid trin pob
plentyn yn ôl ei anghenion a’i bersonoliaeth unigryw ei
hun. Ceisiwn annog plant i fod yn aelodau cyfrifol o’r
ysgol a’u cymdeithas leol ac i dyfu’n bersonau sy’n
ystyriol o eraill a’u hamgylchedd.
Ceisiwn barchu syniadau pob oedolyn a phlentyn o
fewn yr ysgol gan ddatblygu ymhellach yr arfer o
gefnogi ein gilydd ym mhob agwedd o weithgareddau’r
ysgol.
Mae perthynas agos rhwng y cartref a’r ysgol yn holl
bwysig, a gwyddom y cawn bob cyd-weithrediad
gennych i sicrhau hyn. Os oes gennych unrhyw
gwestiynau neu ymholiadau pellach ynglŷn ag unrhyw
fater, mae croeso i chi gysylltu gyda’r ysgol ar unrhyw
adeg – mae’r drws bob amser ar agor.
Bethan Emyr Jones
“Pan fo brwydrau yn y byd, Godre’r Berwyn gwyn eu byd”
Croeso i
Ysgol Godre’r
Berwyn
“Pan fo brwydrau yn y byd,
Godre’r Berwyn gwyn eu byd”
a’r Tryweryn - yn ei halaw,
y llon a’r lleddf ynghlwm i gyd,
ond ynddi nid oes nodyn chwerw,
dy annog mae i herio’r byd.
a phan fyddi’n cael dy amau
yn gorfod sefyll dros y gwir,
cei o’th gylch gadernid Berwyn,
a doethineb hen ei thir…
A phan ddaw dy dro i adael,
cwyd dy ben, rho wên i’r byd,
a chofia fod yng Ngodre’r Berwyn,
ddrws ar agor i bawb o hyd.
Haf Llewelyn
Tyrd i mewn, mae yma groeso,
aelwyd gynnes dan un to,
yma mae pob un yn cyfrif,
a phawb yn arwr yn ei dro…
fel y rhai a fu o’th flaen di
yn codi llais yn erbyn trefn,
gelli dithau ddangos ochr,
weithiau rhaid cael asgwrn cefn…
cofia daith yr afon Ddyrfdwy,
tarddu’n fychan rhwng y brwyn,
weithiau’n droellog, weithiau’n union
ond yn ei dafnau, dawns a swyn,
CYLCHGRAWN FFENEST
GODRE’R BERWYN
Ysgol Godre’r Berwyn © 2025
Website designed and maintained by H G Web Designs